Rydym yn swatio yng nghanol Eryri, wedi’n hamgylchynu gan y môr, mynyddoedd y Rhinogydd a chastell hudolus. Rydym yn adfer coetir hynafol a thir pori coed a gafodd ei dorri, ei ailblannu â chonwydd a'i lwyrgwympo eto a'i adael i redyn gymryd drosodd.
Trwy ymyriadau effaith isel, sympathetig rydym yn araf yn gweld rhywogaethau dangosol o'r coetir hynafol yn dychwelyd. Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar gynyddu bioamrywiaeth, diogelu bywyd gwyllt, fflora a ffawna.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru rydym wedi dechrau meithrinfa fechan, yn casglu ac yn lluosogi hadau blodau gwyllt o darddiad lleol i’w dosbarthu i gymunedau yng Ngwynedd er mwyn helpu i adfer ein dolydd blodau gwyllt brodorol, gan gynnwys ymylon, llwybrau a glaswelltiroedd amwynder.
O fewn y borfa goetir hanesyddol rydym yn creu gardd gegin goedwig fechan a fydd o fudd i rywogaethau peillwyr ac yn cynnig cyfleoedd therapiwtig i’r rhai mewn angen ar sail un i un a grŵp bach. Mae’r pwyslais ar iechyd a chynaliadwyedd pridd, gan ddefnyddio egwyddorion permaddiwylliant mewn agwedd gyfannol at stiwardiaeth tir. Bydd cynnyrch dros ben yn cael ei roi i Fanc Bwyd De Gwynedd.
Wyneb yn wyneb
Gwefan i ddilyn
Ymweld trwy apwyntiad

LL47 6YB